51.80297669999999,-4.090425500000038,16

Cysylltu a ni

Ysgol Maes Y Gwendraeth
74 Heol Y Parc Cefneithin, Llanelli
Sir Gaerfyrddin, SA14 7DT

Ffôn:01269 833900
Ebost:swyddfa@maesygwendraeth.org


Ysgol Maes Y Gwendraeth

Bwletin Ysgol Newyddion y BBC

 

Eisteddfod Gylch Mynydd Mawr 2017

Ar ddydd Gwener y 10fed o Fawrth cynhaliwyd Eisteddfod Gylch Mynydd Mawr. Daeth twr o bobl o wahanol ysgolion i Neuadd Pontyberem i gystadlu mewn amryw o gystadlaethau. Dyma rai o ganlyniadau Ysgol Maes y Gwendraeth. Y gystadleuaeth gyntaf i blant ysgol uwchradd oedd yr unawd bechgyn blwyddyn 7-9. Roedd dau ddisgybl yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon a Steffan Thomas o flwyddyn 9 oedd yn fuddugol. Roedd yr unawd merched blwyddyn 7-9 yn boblogaidd iawn. Roedd 7 merch yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon. Efa Fychan o flwyddyn 8 a gipiodd y safle cyntaf gyda’i pherfformiad o’r gân ‘Y Gwanwyn’. Dim ond dwy oedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y ddeuawd ond roedd perfformiad Fflur a Hâf Davies yn llawn haeddu mynd i’r Sir. Roedd bechgyn a merched yn cystadlu yn y gystadleuaeth llefaru 7-9 a Lowri Voyle o flwyddyn 9 oedd yn fuddugol. Hefyd, roedd cystadleuaeth grŵp llefaru 7-9 lle roedd dau barti yn cystadlu. Fe aeth parti o ddisgyblion blwyddyn 9 yn erbyn parti o flwyddyn 8. Fe aeth y wobr gyntaf i barti blwyddyn naw felly nhw bydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Sir. Hâf Davies o flwyddyn 7 gipiodd y wobr gyntaf am yr alaw werin a hi oedd yn fuddugol am yr unawd cerdd dant hefyd. Bu Ffion Griffiths o flwyddyn 12 yn brysur hefyd. Bu’n cystadlu yn yr unawd merched blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, alaw werin o dan 19 oed, unawd allan o sioe gerdd ac roedd hi’n canu deuawd gyda Ioan Price, hefyd o flwyddyn 12. Bu hi’n llwyddianus yn gwneud yr holl bethau yma! Gwnaeth Ioan Price hefyd ennill yr unawd bechgyn i flwyddyn 10-19 oed. Ar ddydd Iau yr 2il o Fawrth cynhaliwyd eisteddfod Gylch offerynnol hefyd yn neuadd Pontyberem. Daeth llwyddiant mawr i’r ysgol yn yr adran yma hefyd gyda band yr ysgol yn mynd yn syth i Eisteddfod yr Urdd. Cafodd Ioan Price lwyddiant yn yr unawd piano o dan 19 oed a Harri McBryde hefyd o flwyddyn 12 oedd yn fuddugol yn yr unawd pres o dan 19 oed. 

 

 

Llwyddiant Barcelona yn erbyn Paris Saint Germain 

Fe wnaeth Barcelona wneud hanes yng nghyngrair y pencampwyr y flwyddyn yma. Fe wnaethant golli 4-0 yn y cymal cyntaf yn erbyn Paris Saint Germain. Roedd pawb yn credu nad oedd siawns gyda nhw i ddod nôl o hyn, ond rhywsut fe wnaethom. Barcelona yw’r tim cyntaf i ddod nôl i ennill o 4-0 yn y cymal cyntaf. Dydd Mercher yr 8fed o Fawrth 2017 fe enillodd Barcelona 6-1 yn erbyn Paris Saint Germain (PSG) yn yr ail gymal. Felly, mae hyn yn golygu bod Barcelona ymlaen i’r rownd gogynderfynol.

Roedd pawb yn edrych ymlaen at y noson yma gan fod pawb yn sicr fod PSG wedi ennill, ond death Barca nôl i ennill 6-5 ar adegau. Dechreuoch Barcelona yn wych gyda Luis Suarez yn sgori o fewn tair  munud cyntaf i’r gêm. Yna fe gariodd y golau ymlaen, yn anffodus i Baris, fe sgoriodd Kurzawa gôl yng ngôl ei hun mewm 40 munud. Fe gafodd Barcelona cic gosb o fewn 50 munud, a phwy arall i’w sgorio na Lionel Messi! Ond yn lwcus i PSG fe scoriodd Edinson Cavani yn yr 62 munud felly roedd yn rhaid i Barcelona  sgori gol ychwanegol i ennill. Fe wnaeth Nemar sgori cic rhydd yn yr 88 a chic gosb yn y 92 munud. I ennill y gêm fe wnaeth Sergi Roberto sgori yn y 94 munud i ennill y gêm a munud i fynd.

Gan Cai

Meibion Donald Trump yn talu i hela anifeiliaid mewn perygl

Rydym wedi clywed llawer yn ystod y tymor hwn am fraint yr etholiad. Beth mae'n ei olygu, pwy sy'n dioddef ohono, ac sy'n esgus i beidio. Mae braint yn golygu "Mantais arbennig iawn, neu imiwnedd a roddwyd neu ar gael yn unig i unigolyn neu grŵp penodol." Gan ystyried y teulu Trump, mae hefyd yn golygu talu ffioedd afresymol i ladd anifeiliaid egsotig ac mewn perygl difrifol. Pam? Oherwydd eu bod yn gallu, wrth gwrs.

Dim ond pum mlynedd yn ôl, roedd meibion Trump, Donald Jr ac Eric, wedi mynd i Zimbabwe ar daith hela mawr.

Mae lluniau o'u taith yn 2011 yn dangos yr anifeiliaid a laddwyd gan y brodyr, gan gynnwys eliffant Affricanaidd, crocodeil 12'8 (a ddangosir yn hongian o grocbren mewn coeden), kudu, waterbuck, a llewpard, sy’n cael ei gamgymryd fel cheetah.

Er bod llawer o'r rhywogaethau hyn o dan fygythiad, mae poblogaethau llewpard yng Ngogledd Affrica, y Dwyrain Canol a Rwsia yn cael eu dosbarthu fel "mewn perygl difrifol. Yn Parciau Cenedlaethol Zimbabwe, mae 500 o lewpardiaid yn cael eu clustnodi ar gyfer hela yn eu parc bob blwyddyn. Hynny yw, os ydych yn gallu fforddio talu y ffioedd lladd.

 Dydy'r ffioedd ddim yn broblem, wrth gwrs, i feibion Trump. Mae'r prisiau yn filoedd o ddoleri, yn amrywio o $ 4500 am jiráff i $ 60,000 yn wildebeest euraidd egsotig.

Mae'r kudu gafodd ei ladd gan y meibion Trump wedi costio dros $ 4,000 tra bod y waterbuck wedi costio $3250. Mae'r ffioedd ar gyfer y crocodeil yn tua $ 9500, byfflo yn $ 7,500- $ 18.000, llew benywaidd yn $ 8500 ac hippo yn $ 9750.

Gyda eu ffi lladd mwyaf drud yn $ 60,000 gall un fentro bod yr eliffant a'r llewpard yn debygol o gostio ymhell dros $ 100,000. Byddai rhai yn dweud ffortiwn.

A rhag ofn eich bod yn rhyfeddu beth ydy barn Donald J. Trump ar hyn, mae'r ymgeisydd arlywyddol wedi ysgrifennu ar Trydar yn dilyn taith ei feibion: "Mae fy meibion wrth eu boddau yn hela. Maent yn aelodau o'r NRA, rwy'n falch iawn."

Jasmin

Brit Awards 

 

Yn ddiweddar, cafodd y Brit Awards ei chynnal unwaith eto yn yr Arena O2 gyda Dermot O’ Leary ac Emma Willis yn cyflwyno’r digwyddiad. Roedd youtuber Casper Lee hefyd yn cynarthwyo gan wneud y Brit Award Live Stream. Cafodd y digwyddiad yma ei chynnal am 7:30 pm, dyma’r 37fed digwyddiad o’i fath gan dechrau yn 1977. Roedd yna berfformiadau gan artistiaid fel Ed Sheeran, Katy Perry, Bruno Mars, Robbie Williams ac Emelie Sandé, The 1975, Skepta a Little Mix! Roedd yna hefyd lawer o wybrou yn cael eu ennill, un gyda Little Mix a’r 1975. Dyma’r rhestr llawn o wobrwyau:Menyw Prydeinig Unawd Gorau: Emeli Sandé

Gwr Prydeinig Unawd Gorau: David Bowie

Sengl Prydeinig Orau: Little Mix – Shout Out To My Ex

Grŵp Prydeinig Gorau: The 1975

Deddf Breakthrough PrydeinigGorau - a ddewisir gan y cyhoedd: Rag 'N' Bone Man

Fideo CerddoriaethGorau Prydeinig - a ddewisir gan y cyhoedd: One Direction- History

Gwr Rhyngwladol Unawd Gorau: Drake

Menyw Rhyngwladol Unawd Gorau: Beyonce

Grŵp Rhyngwladol Gorau: A Tribe Called Quest

Albwm Prydeinig Gorau: David Bowie – Blackstar

Enillydd Dewis Beirniad Y Brits 2017: Rag 'N' Bone Man

Llwyddiant Prydeinwyr Byd-eang 2017: Adele

Gan Hannah

 

Adroddiad Rhys Patten ar ddatlbygiadau technoleg

Adroddiad Sean a Kieran yn seiliedig ar effaith marwolaeth Ellie ar y Byd Rygbi

Adroddiad Ysgol y BBC 2017

Peter Capaldi yn Gadael Doctor Who

Ers 2014 roedd dyn arall wedi dod i ein sgriniau i warae’r doctor. Yn ei stori gyntaf fe wnaeth e fynd i Llundain yn yr Oes Victoria, yna fe wnaeth ef atal ddyn hanner wyneb o gymryd dros y byd gyda androids.

       Ers 1963 mae Doctor Who wedi fod yn rhan fawr o fywyd pobl prydain, ac erbyn hyn y byd. O 1963 fe wnaeth Doctor Who rhedeg i 1989, a fynd trwyddo saith fersiwn o’r doctor, cyn cael ei ganselo. Ond yng gnobaith ail-ddechrau’r cyfres, yn 1996 fe wnaeth y BBC ymuno â Fox ac hefyd Universal Studios i greu y ffilm teledu. Wnaeth honna hefyd rhoi fersiwn arall o’r doctor i ni.

       Yna yn 2005 fe wnaeth y BBC ail-ddechrau doctor who yn llwyddiannus ac i ddyddiad mae wedi rhoi pedwar versiwn arall o’r doctor. Ond wr dydd llun y 30ain o Ionawr 2017 fe wnaeth Peter Capaldi, def y doctor fwyaf diweddaraf, dweud ei fod yn gadael y sioe ar ôl pedwar mlynedd yn chwarae’r rôl.

       Ar rhaglen Jo Whitley ar BBC Radio 2 fe wnaeth Peter Capaldi ddewud am y cyfres newydd ‘Y peth fwyaf i fi yw bod y cyfres hon yn mynd i fod fy un olaf’ Ac yna fe wnaeth ef fynd ymlaen i ddweud bydde fey n gwneud y cyfres newydd yn 2017 gyda Pearl Mackie yn chwarae y ‘companion’ newydd Bill, ac yna fe fydd e’n cael ‘regeneration’ yn rhaglen nadolig Doctor Who 2017.

       Y prif pobl sydd yn cael eu ddweud if od y doctor newydd yw Ben Whishaw – Q yn James Bond, Rory Kinnear hefyd. Mae rhai yn ddweud bydd Matt Smith yn dod yn ôl i chwarae’r doctor ar ôl chwarae fe yn 2010-2013. Mae llawer yn ddweud hefyd bod rhaid i nhw cael merch neu person du yn chwarae’r rôl arwain, oherwydd am 50 mlynedd mae’r doctor wedi bod yn dyn gwyn. Y person sydd i weld yn fwyaf poblogaidd i weld i chwarae’r rôl yw Olivia Colman.

       Ond, pwy a wyr pwy bydd y doctor nesaf, ond amser sydd gallu dweud, on dos oedd gyda ni’r TARDIS o Doctor Who allwn ni ddweud.

Taran

 

Ieithoedd Modern

Yn y byd modern yma, mae cyfathrebu’n hawdd, gyda google translate, cyfieithwyr a chyfryngau cymdeithasol sydd yn cyfieithu ieithoedd yn awtomatig. Ond beth mae pobl ddim mor ymwybodol ohono yw’r anfanteision i’r pethau hyn. Dydy google translate na’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn cyfeithu’n iawn. Mae cyfieithwyr iawn i fod cael saib pob chwarter awr ac wrth gyfieithu unrhyw beth mae pethau yn gallu mynd ar goll o ran ystyr, neu fel mae’r sais yn dweud ‘lost intranslation’.

       Felly mae’n well i ddysgu iaith, ond dydy llawer o bobl ddim yn gweld hynny y dyddiau yma. Mae llawer o ddisgyblion ysgol uwchradd yn gweld iaith yn anodd a ddim yn gweld y pwynt o ddysgu iaith. Maen nhw’n meddwl mai Saesneg yw’r unig iaith sydd angen yn y byd, gan anghofio bod iaith fel Mandarin yn cael ei siarad gan fwy o boblogaeth y byd na Saesneg.

       Nawr mae yna gofyn am weithwyr sydd gyda’r sgilliau i siarad mwy nag un iaith neu sydd yn barod i ddysgu iaith arall. Ac yn yr Undeb Ewropeaidd roedd gyda ni’r pwer i gael y gweithwyr o Ewrop oedd yn ddigon parod i ddysgu Saesneg fel iaith, ond gyda Brexit fydd dim y rhyddid i ofyn am weithwyr o wledydd eraill. Felly mae mwy fyth o angen i bobl yma yng Nghymru a Lloegr ddysgu iaith ychwanegol. Yn Hydref 2015 fe wnaeth Llywodraeth Cymrug gyhoeddi dogfen o’r enw ‘Global Futures’, sef cynllun i hybu a gwella ddysgu ieithoedd yn ysgolion uwchradd yng Nghymru.

       Yn yr adroddiad dywedodd Huw Lewis, y Gwenidog Addysg a Sgilliau (2015) ‘I have set out my ambition for Wales to become a ‘Bilingual plus 1’ nation, where learners study English, Welsh and, from Year 5 onwards, one or more modern foreign languages.’ Bydd ddysgu iaith ym mhlwyddyn 5, fel dywedodd Huw Lewis, yn well i’r wlad oherwydd bydd ymennydd y disgyblion yn fwy hyblyg, felly bydden nhw’n dod i’r arfer a siarad iaith arall, ac yn fwy abl i siarad iaith arall yn llyfn.

       Mae llawer o bobl yn cytuno gyda’r cynllun, fel Kirstie Williams AM Ysgrifenydd Cabinet a ddywedodd ‘The Welsh Government recognises that learning other languages is an important element in educating children and young people as it broadens horizons, introduces learners to other cultures and provides them with experiences and skills that they need to succeed in the new global economy. The welsh Government wants to see all children and young people learning about languages from a young age.’

       Ond mae yna pobl yn anghytuno gyda’r syniad yn dweud ‘Mae llawer o wallau yn ein iaith ein hunain, sillafu, gramadeg, treiglo sydd yn anodd i’w dysgu, heb sôn am iaith arall wedi’i rhoi i fewn i’r casgliad. Roedd 70.4% o ddisgyblion wedi cael C-A* yn y TGAU Cymraeg neu Saesneg yn 2016, felly mae’n rhaid canolbwyntio ar gwella ein graddau iaith ni cyn hyd yn oed ystyried rhoi iaith arall i’r wlad.

       Mae’r gobaith o iaith arall yn y wald yn edrych yn gwael, ond gyda Brexit bydd rhaid i Prydain fod yn fwy annibynnol, felly bydd y cic yna yn effeithio ar y wlad ac fydd yn rhoi y hyder sydd angen ar y wlad bydd yn rhoi y frwdfrydedd i troi Cymry yn wlad tairieithog. 

Gan Taran

Technoleg we newydd BT

Cyhoeddodd BT heddiw ei bod yn dod allan a technoleg cyfathrebu newydd i’w ddefnyddio dros y we. Fel rhan fwyaf o dechnolegau newydd BT, mae’n annhebyg y bydd yn ein cyrraedd ni yma’n Sir Gar. Mae yna wedi bod llawer o broblemau efo’r we yn ein hardal ni, efo dadgysylltiadau a chysylltiad araf yn ddigwyddiadau aml.

Mae’r technoleg newydd, a elwir yn ‘G.fast’ yn cael ei brofi gan busnesau yn Kent wythnos yma. Mae yna llawer o bwyntiau positif o ran y dechnoleg newydd, fel y ffaith ei bod yn fwy cyflym na ffeibr arferol, gan ei fod yn mynd syth at yr adeilad yn lle trwy’r hen linellau copr.

Mae yna rhai problemau efo’r dechnoleg hefyd, gan fod angen cael gwared y linellau copr sy’n bodoli mewn ardaloedd yn barod, sy’n mynd i gosti llawer i BT. Hefyd, does dim dweud os bydd y technoleg yn mynd i fod ar gael i gwmnioedd eraill.

Un peth sy’n bendant yw bod e’n annhebygol iawn fydd y dechnoleg i gael yng Nghwm Gwendraeth, gan nad yw rhan fwyaf o’r ardal wedi’i gysylltu i ffeibr eto. Mae’n werth nodi hefyd bod trigolion Drefach wedi ymladd yn ddiweddar i stopio Vodafone rhoi mast newydd tu ol i’r clwb criced yn Nrefach. Er gwaethaf hynny, mae pobl yr ardal yn dal i weithio i gael we gwell. Felly, gobeithiwn yn y dyfodol fydd datblygiadau yn newid bywyd pobl Sir Gar.

Gan Rhys

 

Dydd St Patrick a pham dathlu?  

Mae Dydd St Patrick yn ddydd pwysig iawn yn hanes Iwerddon. Maent yn dathlu y dydd pob blwyddyn ar y 17ain o Fawrth ers 461 ar ôl crist. Mae’r dyddiad yma yn y ddydd gwnaeth St Patrick farw. Mae’n bwysig iawn i bobl Iwerddon wisgo “shamrock” neu rhywbeth gwyrdd oherwydd dyna oedd gwisg roedd St Patrick yn ei wisgo. Mae’r bobl yn dathlu trwy gynnal gorymdeithau a gwyliau, dydyn nhw hefyd ddim yn gweithio ac yn aros gyda’i theulu. Ond pam mae angen dathlu? Dyma’r cwestiwn bydden yn ceisio ateb. 

Dwedai cofnodion hanes bod St Patrick, yn un ar bymtheg oed, wedi ei ddal gan ysbeilwyr Gwyddelig a threuliodd nifer o flynyddoedd fel caethwas yn Iwerddon. Yn y cyfnod yma, dysgodd gwahanol ddefodau, arferion, iaith y Derwyddon ac yr oedd y bobl hyn fod yn efengylodd yn y pen draw. Cafodd Patrick freuddwyd lle siaradodd Duw wrtho, gan ddweud, "Mae eich llong yn barod." Roedd Patrick wedyn yn gallu dianc o Iwerddon drwy’r llong ond clywodd Patrick y lleisiau o bawb yr oedd wedi ei cwrdd yn Iwerddon yn dweud wrtho i ddychwelyd nôl. Daeth yn nôl ond i barhau fod yn offeiriaid ac wedi gallu adeiladu sylfaen gryf ar gyfer Cristnogaeth. Roedd y bobl Gwyddelod yn barod i dderbyn ei ddysgeidiaeth, yn enwedig yn wyneb y ffaith ei fod yn gallu cymryd sawl un o'u symbolau Celtaidd a "Christianize" nhw.  

Er nad oedd Patrick yn saint go iawn, roedd pawb yn ei alw. Mae rhai yn dweud bod y dysgiaeth wedi eu helpu i ddeall Iwerddon a Christnogaeth yn well ac wedi newid eu bywyd. Mae rhai eraill yn dweud bod yn bwysig i gofio a dathlu oherwydd roedd y dyn wedi helpu nhw i ddeall Duw a phopeth arall yn y byd, roedd wedi dangos y ffordd cywir iddyn nhw. Mae’r dydd yma yn bwysig iawn. 

Er hyn, mae yna rhai unigolion nad yw’n credu bod y dydd ddim yn bwysig. Un o’r unigolion yma yw Seamus. Dwedai ef bod yn “I’m worried that St. Patrick’s Day has become a farce, a celebration of cartoonish symbols of Irish culture that minimize, dilute and demean what it means to be Irish. Wrapped in an excuse to drink too many (itself a stereotype long used to keep Irish immigrants down), the holiday is so devoid of culture that it may as well be grouped with fake holidays like SantaCon”. Fel Seamus, mae yna rhai bobl yn credu bod yr wyl wedi mynd yn jôc mae nifer yn cymryd rhan ynddo. 

Yn fy marn i, mae’n bwysig i ddathlu y gwyliau sy’n traddodiadol i eich wlad chi oherwydd mae’n rhan o eich hanes. Yng Nghymru, rydym yn dathlu Dydd Gwyl Dewi ac mae’n mor bwysig i ni. Mae dydd fel hyn yn dod a’r holl cenedl at ei gilydd i ddathlu. 

Gan Hannah a Jasmine

 

Adroddiad ar Gymru yn erbyn Iwerddon

       Dros y penwythnos  bu Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon ym mhencampwriaeth y 6 gwlad. Yn anffodus i Gymru nid yw pencampwriaeth y 6 gwlad wedi mynd yn dda iawn i Gymru.

Er colli yn erbyn yr Alban yn ei gêm diwethaf bu Cymru yn llwyddianus yn erbyn Iwerddon gan guro nhw 22-9. Fe ddechreuodd y gem wrth i Jonathan Sexton gael cic gosb i Iwerddon ond yn fuan wedyn fe lwyddodd George North i groesi’r linell gais drwy guro Simon Zebo a Rob Kearney. Fe aeth pawb yn y stadiwm yn wyllt ar ôl i hyn ddigwydd. Erbyn diwedd yr hanner cyntaf y sgor oedd 8-6 i Gymru.

Ar ddechrau’r ail hanner fe sgoriodd George North unwaith eto. Dydy George North ddim wedi bod yn chwarae yn dda iawn yn y gorffennol felly roedd sgorio dau gais yn dda iawn i George North. Er i Iwerddon ddod nôl o fewn tros gais tu ôl i Gymru fe lwyddodd Gymru i ddal ymlaen ac yn lwcus iddyn nhw fe lwyddodd Jamie Roberts sgorio cais arall i Gymru. Fe lwyddodd Leigh Halfpenny i gael y tros gais i wneud y sgor yn 22-6 i Gymru. Ar ôl y gem yma mae Cymru yn bedwerydd ar y bwrdd, un pwynt tu ôl i Ffrainc ac Iwerddon.

Gan Tomos

 

 

BBC School News Report

Technoleg newydd Apple

Apple. Un o’r mathau o dechnoleg mwyaf dymunol a mwyaf modern yn y byd. Felly, beth fydd y uwchraddiadau nesaf I ddod allan  o’r cwmni technoleg fwyaf yn y byd?

Mae e’n annhebygol bydd unrhyw mathau newydd o dechnoleg ddod allan ond mae siawns byddwn ni’n gweld yr ‘Apple car’.

Wel, dyma rhai o’r pethau bydd yn debygol o gael eu dadorchuddio yn fuan iawn, sef yr ‘Apple Watch Series 3’ neu o leiaf y’r ‘WatchOS 4’. Bydd rhai pethau yn cael eu uwchraddio yn cynnwys y pethau mae’r rhan fwyaf ohonom ni eisiau gweld fel GPS, batri sy’n gallu parhau am dau ddiwrnod, ac yn gallu atal dŵr rhag dinistrio fe. Ond, ydy’r uwchraddiadau yma yn rhy ddiflas?

Roedd Apple wedi gwerthu 45.5 miliwn IPhone yn y cwarter diwethaf, sydd yn 5% yn llai na dau flwyddyn yn ôl. Hyn oedd y tro cyntaf mewn 15 blwyddyn I Apple gwerthu llai o nwyddau mewn cwarter.

Felly, mae rhaid i Apple uwchraddio mwy o bethau, neu hyd yn oed dod allan a nwyddau newydd I allu cynnal yr elw maen nhw’n creu.

Bydd yr IPad yn peth mawr bydd yn cael ei uwchraddio yn 2017. Bydd yr IPad Pro 2 yn disgwyl cael ei lawnsio yn Gwanwyn neu Haf 2017. Does dim gwybodaeth eto am yr uwchraddiadau neu newidiadau ond mi fydd gwybodaeth yn dod allan yn hwyrach yn y flwyddyn. 

Felly, mae e’n amlwg bod gweithwyr Apple wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar newidiadau. Ond beth fydd yn dod yn y dyfodol?

 

 

Adroddiad ar ddatblygiadau newydd yng Nghorslas

 

BBC School Report 2017

 

Cyfarfod Donald Trump a Theresa May

 

Bydd Donald Trump yn cyfarfod gyda Theresa May yn yr Oval Office prynhawn yma i siarad am ddyfodol y berthynas rhwng Prydain ac America.

 

Bydd y ddau arweinydd yn cyfarfod yn Washington D.C am un awr prynhawn yma. Theresa May bydd yr arweinydd tramor cyntaf i gyfarfod gyda’r person mwyaf pwerus y byd ers iddo gael ei rhegu mewn un wythnos yn ôl.

 

Bydd y ddau arweinydd yn siarad am ddechrau dêl masnach mawr am ddim bydd yn gallu cael ei ddechrau mor gynnar a wythnosau ar ôl Brexit. Un opsiwn gall y ddau benderfynu ar yw’r prisiau am y nwyddau sydd yn barod yn cael allforio gan y ddwy wlad.

 

Medd rhai bydd y dêl yma yn gallu helpu Prydain gael gwell del i adael yr EU yng Ngwlad Belg. Hefyd, bydd Theresa May yn meddwl i wneud e’n haws i adael pobl Americanaidd i ddod mewn i Brydain ac i wneud e’n haws i bobl Prydain ddod i’r Amerig.

 

Ar hyn o bryd mae 230,000 o bobl yr oedran rhwng 16 a 64 sydd wedi cael ei eni yng Ngogledd America yn byw ym Mhrydain ac mae’r boblogaeth Brydeinig yn Amerig mor uchel â 700,000 o bobl.

 

Roedd Mrs.May wedi dweud ar Ddydd Sul bod hi’n mynd i siarad am delau, terfysgaeth a’r argyfwng yn Syria.

 

Byddwn yn gwybod am yr hyn sydd yn digwydd yn y Tŷ Gwyn cyn gynted â phosib a byddwn yn gwybod beth mae Theresa May wedi trafod mewn cyfweliad yn fuan.

 

Gan Trystan

 

Adroddiad Ysgol y BBC

 

 

 

Adroddiad Ysgol y BBC 2017

Llysgenhadon Iaith

 Ffrangeg i Sbaeneg i Gymraeg i Saesneg. Faint mor bwysig yw ieithoedd tramor yn y byd modern yma?

Mae ieithoedd tramor yn dod yn hanfodol yn y byd gwaith ar hyn o bryd oherwydd y gystadleuaeth am lefydd ym mhrifysgolion ac yn y byd gwaith.

Mae llawer o bobl yn credu does dim angen dysgu iaith tramor oherwydd bod pawb yn siarad saesneg. Iawn? Na. Dim ond 1.5 biliwn o bobl sy’n gallu siarad saesneg a llawer ohonyn nhw yn siarad fel ail iaith, dim iaith gyntaf. Felly ydyn ni’n colli allan ar fusnes gyda gweddill y byd? Mae’r ateb i hynny’n syml. Ydyn. Os ydyn ni’n dysgu Ffrangeg, byddwn ni’n agor ein drysau i 292 miliwn o bobl, mae 400 miliwn o bobl yn siarad Sbaeneg, 220 miliwn o bobl yn siarad Almaeneg a 1.6 biliwn o bobl yn siarad Tsieiniaeidd sef 16% o boblogaeth y byd!

Ar hyn o bryd mae llawer o gwmnioedd trawswladol yn gorfod cyflogi pobl o wledydd eraill oherwydd dydy bod pobl Prydain ddim yn gallu siarad iaith dramor.

Hefyd, dywedodd Kirsty Williams AM sef yr ysgrifennydd cabinet am addysg yng Nghymru ‘Mae lywodraeth Cymru yn adnabod bod dysgu ieithoedd tramor yn elfen bwysig yn dysgu plant a phobl ifanc oherwydd bod e’n agor drysau, cyflwyno dysgwyr i ddiwylliannau ac yn cyflwyno profiadau a sgiliau sydd angen ar blant i lwyddo yn yr economi byd-eang newydd.’

Mae llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ERW ar hyn o bryd ac maen nhw wedi cyflwyno y ‘Global Futures Plan’ sydd yn cynllun i annog plant i ddysgu ieithoedd tramor yng Nghymru.

Felly, dylai pobl yng Ngymru ac ym Mhrydain gwneud fwy i annog pobl i ddysgu ieithoedd? Mae’r byd yn newid trwy’r amser ac mae e’n dod yn fwy pwysig i allu cyfathrebu gyda gwledydd tramor yn ein byd modern.

Adroddiad gan

Trystan

 

Paratoadau ar gyfer Adroddiad Bwletin Ysgol y BBC

IMG 0931

IMG 0934

IMG 0937

IMG 0938

BBC