ClassCharts
Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn defnyddio system gyfathrebu a thracio Classcharts sydd yn caniatau i’n disgyblion a’n rhieni/gofalwyr i gael gwybodaeth am bresenoldeb, amserlen, tasgau gwaith cartref ac ymddygiad. Mae modd hefyd i’r cartref gyfathrebu’r rheswm dros absenoldeb eu plentyn drwy Classcharts. Er mwyn cael mynediad i'r system, bydd angen i chi lawrlwytho'r ap Classcharts i'ch dyfais a mewnbynnu'r cyfrinair unigryw y byddwch yn ei dderbyn wrth yr ysgol.