Cyfnod Allweddol 3
(Blwyddyn 7, 8 a 9)
Mae disgyblion CA3 Ysgol Maes y Gwendraeth yn dilyn amryw o bynciau diddorol a chyffrous dros amserlen pythefnosol. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys gwersi craidd Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a Gwyddoniaeth ym mlynyddoedd 7, 8 a 9. Rhennir gweddill yr amserlen pythefnosol rhwng pynciau all-graidd o dan adain Meysydd Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm newydd fel y ganlyn:
Addysg Gorfforol, Bwyd a Maeth, Chwaraeon a Lles
Ffrangeg a Sbaeneg
Celf, Cerdd, Drama
Dyniaethau (Hanes, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddau)
Dylunio a Thechnoleg
Bydd y sgiliau allweddol (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) yn cael eu cymhwyso ar draws y cwricwlwm, ym mhob pwnc yn ogystal a gwersi Technoleg Gwybodaeth (TG).
Yn ystod Blwyddyn 9, bydd y disgyblion yn cychwyn a chwblhau’r broses o ddewis eu pynciau ar gyfer eu hastudiaethau TGAU gan ddechrau ar amserlen newydd ar ôl hanner tymor Sulgwyn.