Cyfnod Allweddol 4
(Blwyddyn 10 ac 11)
Yng Nghyfnod Allweddol 4 bydd disgyblion yn dilyn amrywiaeth o bynciau craidd a phynciau dewis dros amserlen pythefnosol a fydd yn arwain at amrywiaeth o gymwysterau ar ddiwedd blwyddyn 11.
Bydd y mwyafrif o'r gwersi dros y pythefnos yn gymwysterau TGAU/Lefel Mynediad yn y pynciau craidd (Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth). Bydd pob disgybl yn dilyn cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau neu gymhwyster Byd Gwaith.
Bydd disgyblion yn dewis tri phwnc dewisol sy’n cynnwys:
- Addysg Awyr Agored
- Addysg Gorfforol
- Astudiaethau Crefyddol
- Busnes
- Bwyd a Maeth
- Celf
- Cerdd
- Dylunio a Thechnoleg
- Daearyddiaeth
- Drama
- Ffrangeg
- Hanes
- Gwasanaethau Cyhoeddus,
- Gwyddoniaeth Driphlyg
- Iechyd & Gofal Cymdeithasol
- Sbaeneg
- Tecstilau
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Ymddiriedaeth Y Tywysog.
Fel rhan o’n darpariaeth Cyfnod Allweddol 4, mae Ysgol Maes Y Gwendraeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Sir Gar sy’n darparu cyrsiau galwedigaethol arbenigol o fewn cyfnod y pynciau dewis megis Adeiladwaith, Amaethyddiaeth, Gwallt a Harddwch a Pheirianneg Ceir.
Mae’r ysgol yn darparu gwersi di-arholiad statudol yn Addysg Gorfforol ac Astudiaethau Crefyddau ynghyd â gwersi Lles a Llythrennedd fel rhan o ddatblygiad personol y disgyblion.
Bydd cyfle i rai disgyblion ennill cymwysterau ychwanegol tu hwnt i wersi arferol mewn Mathemateg Ychwanegol a Llythrennedd Cyllid.
Yn ystod blwyddyn 11, bydd disgyblion yn cychwyn ar y broses o ddewis pynciau ar gyfer eu hastudiaethau Safon Uwch Gyfrannol os mai dychwelyd i’r ysgol i’r Chweched Dosbarth fydd eu llwybr. Bydd y broses yma yn cael ei chwblhau yn dilyn cyhoeddi eu canlyniadau TGAU ym mlwyddyn 11.