Dug Caeredin
Croeso i'r adran Gwobr Dug Caeredin!
'Mae gwobr Dug Caeredin yn rhaglen heriol o weithgareddau a fydd yn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, helpu eraill, gweithio fel tîm, profi antur a chael ymdeimlad gwych o gyflawniad. Yn fwy na hynny, mae llawer o sefydliadau, fel cyflogwyr a phrifysgolion wrth eu bodd ac yn cofleidio'r hyn y mae'n ei ddweud amdanoch chi fel person.'
Rydym yn falch fel ysgol o allu cynnig y gwobrau Efydd (bl.10), Arian (bl.12) ac Aur (bl.13) Dug Caeredin i unrhyw ddisgybl sy'n dymuno cymryd rhan, tra hefyd yn darparu cyfleoedd pellach i ddisgyblion wneud cais am gyrsiau 'Arweinwyr Ifanc' yng Nglan-llyn a Llysgenhadon Ieuenctid yn y DU. Ar hyn o bryd mae gennym ddisgybl blwyddyn 12 wedi cofrestru a hyfforddi i ddod yn Llysgennad Ieuenctid - un o ddim ond 50 yn y DU!
Dros y blynyddoedd mae'r wobr wedi tyfu yn nifer y cyfranogwyr, staff hyfforddedig a chyfleusterau a nawr rydym yn gallu cynnig pob lefel o'r wobr gyda chefnogaeth barhaus ac amhrisiadwy Cyngor Sir Gaerfyrddin. Er mwyn cyflawni'r cymhwyster, mae angen i'r unigolyn gwblhau 4 agwedd sy'n cynnwys gwaith ELUSENNOL, dysgu SGIL newydd, ymrwymo i dasg GORFFOROL a chwblhau ALLDAITH ymarfer yna asesiad terfynol. Mae'r terfyn amser ar gyfer pob agwedd yn dibynnu ar lefel y dyfarniad. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy...
Mae newyddion a gwybodaeth ddiweddar yn cael eu hysbysu ar Google Classroom - Côd - mxorzki
Facebook a Trydar - @DugCaerMYG
Cadwch lygad cyson.
Gwobr Dug Caeredin Efydd Haf 2023
Gwobr Dug Caeredin Arian Haf 2023
Dyma'r dyddiadau ar gyfer ein allteithiau efydd ac arian eleni:
Mae ychydig o ddiwygio am ymarferion efydd gan fod y canllawiau wedi newid ym Mhenbre.
Efydd ymarfer (Bannau)
|
Efydd ymarfer (Penfro)
|
Efydd Asesiad (Bannau)
|
Efydd Asesiad (Penfro)
|
Ymarfer Arian
|
Asesiad Arian
|
Ebrill 11/12
|
Ebrill 18/19
|
Mehefin 24/25
|
Gorffennaf 15/16
|
Mehefin 6/7/8
|
Gorffennaf 1/2/3
|
llythr dyddiadau cymraeg 2024.pdf