Gwisg Ysgol
Cliciwch yma am wybodaeth ynglŷn â grant gwisg ysgol ac offer.
YMDDANGOSIAD - CYTUNDEB DISGYBL
-
Disgwylir i bob disgybl gydymffurfio a mynychu’r ysgol yn y wisg swyddogol ar bob achlysur. Ni chaniateir unrhyw wyro o’r rheolau.
-
Mae ymddangosiad TACLUS yn bwysig BOB AMSER i bob disgybl.
-
Rhaid i ymddangosiad bob disgybl fod yn DDERBYNIOL I’R YSGOL BOB AMSER.
-
Bydd y wisg ysgol gywir yn cael ei gwisgo bob dydd.
-
ESGIDIAU DU (lledr meddal neu caled) — dim sodlau uchel nac esgidiau canfas.
-
Hyd y sgert i gyrraedd y benglin.
-
Dim lliwiau gwallt llachar nac annaturiol e.e. cochbinc/porffor/oren a.y.b.
-
Dim steil gwallt anaddas.
-
DIM COLUR ar yr wyneb na’r ewinedd.
-
UN pâr o glustdlysau (studs) yn llebed (earlobe) y glust yn unig (am resymau iechyd).
-
DIM TLYSAU ERAILL o gwbl ar unrhyw ran o’r corff .
-
COTIAU glas tywyll, du a llwyd yn unig. Dim denim, dim lliwiau llachar.
-
DIM TROWSUS STREIPIOG.
-
Dim hwdis na jìns.
-
DYLID GOSOD ENW’R DISGYBL AR BOB DILLEDYN. CYFRIFOLDEB Y DISGYBL YW GOFALU AM EI WISG A’I EIDDO EI HUN.
Gwisg swyddogol yr ysgol
Cit Addysg Gorfforol swyddogol yr ysgol
Gellir prynu gwisg ysgol trwy’r cyflenwyr canlynol: