Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • SearchSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern. Mae datblygiadau yn y meysydd hyn wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas erioed. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywyd pob un, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thecnoleg (Maes) yn gynyddol berthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein hieuenctid ni yn eu profi, a’r dewisiadau y byddan nhw’n eu gwneud mewn bywyd.

Mae mynediad parod i gasgliad enfawr o ddata yn gofyn bod dysgwyr yn gallu asesu mewnbynau’n feirniadol, deall sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno fel ffaith, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar eu hymddygiad a’u gwerthoedd eu hunain. Mae angen iddyn nhw feithrin y gallu i ofyn, yn ystyrlon, y cwestiwn: ‘Ydy’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylen ni?’

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn chwe datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Drwy werthuso tystiolaeth wyddonol a thechnolegol mewn ffordd gadarn a chyson, gall dysgwyr ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd, a fydd yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gweithredoedd yn y dyfodol. Daw unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas yn wybodus drwy wybod am eu cyrff a’r ecosystemau o’u hamgylch, a thrwy wybod sut y gall datblygiadau technolegol arloesol gefnogi gwelliannau mewn perthynas ag iechyd a ffordd o fyw.

Dylai dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes ymwneud â newidiadau gwyddonol a thechnolegol. Gall yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddofn a geir wrth brofi’r hyn sy’n bwysig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg fod o gymorth i ddysgwyr fyw bywydau annibynnol a chyflawn, a’u hannog i gyfrannu tuag at gymdeithas a diwylliant mewn amryfal ffyrdd. Mae dysgwyr sy’n gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith yn croesawu heriau o’r fath, oherwydd byddan nhw’n cael eu hannog i gymryd risg, i arloesi a gwerthuso, a dysgu sut i ddarganfod atebion. Felly, gallan nhw ddod yn ddysgwyr mwy gwydn a phwrpasol ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad.

Mae’r Maes hwn yn tynnu ar ddisgyblaethau bioleg, cemeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, dylunio a thechnoleg, a ffiseg er mwyn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r byd.