Gyrfaoedd a Byd Gwaith
Mae disgyblion yr ysgol yn cael llu o brofiadau Gyrfaoedd a Byd Gwaith boed trwy'r cystadlaethau, prosiectau byw, profiad gwaith, ymweliadau ac yn y blaen. Rydym yn cydweithio'n agos gyda chwmnïau ac asiantaethau lleol megis Castell Howell, Y Gerddi Botaneg, Menter Cwm Gwendraeth a Chynllun Profi, Menter Gorllewin Sir Gâr.
Ein Cynghorydd Gyrfaoedd Gyrfa Cymru yw Mr John Selby ac mae ef yn gweithio ar safle'r ysgol 2 i 3 dydd yr wythnos.
Os ydych yn awyddus i gael cyngor pellach ynglŷn â'ch opsiynau a chynllunio'ch gyrfa, paratoi at gael swydd, dod o hyd i ac ymgeisio am brentisiaethau, cyrsiau a'r hyfforddiant cywir yna cliciwch ar wefan Gyrfa Cymru.
Cylchlythyr Gyrfa Cymru i rieni a gofalwyr plant mewn addysg brif ffrwd:
Mae gwefan Profi yn wych i'ch helpu chi i ddysgu mwy am sgiliau byd gwaith yn ogystal â chadw cofnod o'ch datblygiad personol wrth ymgymryd â phrofiadau a dysgu sgiliau newydd.