Images protected by Greenhouse School Websites
Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym Open/Close

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

 

Dathlu llwyddiannau ein dysgwyr

Rydym yn awyddus i ddathlu llwyddiant ein dysgwyr mewn meysydd y tu mewn a thu allan i'r ysgol. Dyma gyfle i chi fel rhieni/gwarcheidwaid i rannu gyda ni lwyddiannau eich plentyn y tu hwnt i waliau'r ysgol.

Cliciwch ar y dolen isod i rannu llwyddiant eich plentyn. 

 

Dathlu llwyddiant 

 

Llais Maes - ein Cyngor Ysgol

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, mae disgyblion yr ysgol yn cael cyfleoedd gwerthfawr i fynegi barn ar amrywiol feysydd sy'n bwysig iddynt. Ar hyn o bryd, mae Llais Maes yn cynnwys chwech fforwm sy'n cwrdd yn ystod y flwyddyn er mwyn trafod, cynllunio a gweithredu ar faterion sy'n bwysig iddynt.

Ein Fforymau:

  • Fforwm Llais Maes
  • Fforwm Iechyd a Lles
  • Fforwm Amgylchfyd
  • Fforwm Cymreictod
  • Fforwm Clod
  • Fforwm Cwricwlwm

Mae cynrychiolwyr o bob blwyddyn yn aelodau o’r amrywiol fforymau. Yn dymhorol, cynhelir fforwm blwyddyn gyda’r Pennaeth Blwyddyn lle trafodir ymateb disgyblion y flwyddyn i amrywiol faterion pwysig, megis bwlian a gwobrwyo. Mae dau gynrychiolydd o bob dosbarth cofrestru yn mynychu’r cyfarfodydd hyn ar ran eu cyfoedion. 

Bob tymor, caiff cylchlythyr ei gyhoeddi sydd yn hysbysu’r ysgol a’n cymuned o’r gwaith pwysig sydd yn cael ei gyflawni yn y fforymau.