Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym Open/Close

Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • ParentPay ParentPay

Prif Swyddogion           

 

Prif Swyddogion 2025-26

Fy enw i yw Deio ac rwy’n un o Brif Swyddogion Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth. Rwy’n astudio Cemeg, Ffiseg, Bioleg, Mathemateg a’r Faloriaeth Gymreig ar gyfer fy Lefel A, pob un trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn fy amser rhydd, rwy’n hoffi chwarae rygbi, pêl-droed, mynd i’r gampfa, canu’r piano a’r drymiau, a chymdeithasu gyda ffrindiau. Fe geisiais am y rôl Prif Swyddog am fy mod yn awyddus i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd yr ysgol. Ers dechrau yn yr ysgol hon, rwyf wedi derbyn profiadau, cefnogaeth ac addysg arbennig sydd wedi fy helpu i ddatblygu’n unigolyn hyderus ac annibynnol, ac rwy’n awyddus i gefnogi eraill i wneud yr un peth. Yn ystod fy nghyfnod fel Prif Swyddog, rwy’n awyddus i drafod syniadau ar sut i ddatblygu’r chweched dosbarth a’r Gilfach ymhellach gyda fy nghyd-fyfyrwyr, datblygu cyfleoedd cymdeithasu a chadw’n iach, a sicrhau bod llais y disgyblion yn cael ei glywed ar draws yr ysgol. Mae’n fraint cael fy newis i fod yn Brif Swyddog ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda phawb dros y flwyddyn nesaf.

Rwy’n astudio Hanes, Gwleidyddiaeth a Drama fel pynciau Safon Uwch. Mae gennyf nifer o sgiliau a rhinweddau sy’n hanfodol ar gyfer y cyfrifoldeb pwysig yma. Rwy’n berson gweithgar a threfnus wrth wneud fy ngwaith ysgol ac rwy'n ceisio blaenoriaethu'r rhinweddau hyn tu allan i’r ysgol hefyd. Rwy’n gweithio’n dda fel rhan o dîm a theimlaf fy mod ar fy ngorau wrth weithio gydag eraill. Rwy’n berson creadigol ac yn ymddiddori ym myd ffasiwn a ffilmiau. Mae hyn yn bwysig iawn i mi fel person. Mae’r Gilfach, er yn le cyffyrddus, braidd yn ddiflas! Hoffwn petai’r Chweched Dosbarth yn gallu cynllunio a pheintio murlun byddai’n dangos ein gwerthoedd yn glir, sef Meithrin, Blaguro a Llwyddo. Bydd hyn yn creu awyrgylch groesawgar a deniadol i’r myfyrwyr. Yn ogystal, mae yna fyrddau arddangos gwag yn y Gilfach. Gallai’r chweched dosbarth arddangos eu llwyddiannau trwy’r flwyddyn ar rain. Oherwydd fy rôl yn y Cyngor Iechyd a Lles mae iechyd meddwl yn bwysig iawn i mi. Hoffwn weld siaradwyr gwadd amrywiol yn dod i siarad gyda’r Chweched Dosbarth am elfennau penodol o iechyd a lles fel ein bod yn datblygu ein dealltwriaeth a’r gallu i ddeall a helpu eraill. Dewisais aros yn y Chweched Dosbarth am fy mod wedi gallu dewis pynciau sydd o ddiddordeb i mi. Rwy’n llwyr fwynhau astudio Hanes, Gwleidyddiaeth a Drama fel pynciau Safon Uwch. Yn ogystal, mae yna ddigonedd o weithgareddau allgyrsiol creadigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwahanol sydd ar gael i’r Chweched Dosbarth yma ym Maes y Gwendraeth.

Heb os, dwi’n magu’r rhinweddau addas i allu cymryd rol prif swyddog a gwneud swydd dda ohoni. Fel person, dwi’n ferch gyfeillgar iawn sy’n hyderus i siarad gyda unrhywun, rhinwedd allweddol i Brif Swyddog gan fod y rol yn gofyn eich bod yn hyderus o flaen unrhyw gynulleidfa o ddisgyblion blwyddyn 7 i athrawon a llywodraethwyr. Sgil arall sydd gennyf yw brwdfrydedd i ymroi at gymuned yr ysgol gan fy mod yn falch iawn o fod yn Ysgol Gyfun Gymraeg Maes Y Gwendraeth. Mae gyda’r chweched dosbarth yn benodol deimlad cadarnhaol, positif a theuluol sydd yn gyfnod o amser byddaf yn trysori am byth. Dwi’n teimlo’n lwcus ofnadwy fy mod yn gallu rhannu hwn gyda disgyblion iau’r ysgol ac efallai ysbrydoli rhai i barhau a’u taith gyda ni yma. O ran gobeithion am y flwyddyn, hoffwn greu mwy o berthynas rhwng blwyddyn 12 a blwyddyn 11 sydd efallai’n ansicr os ydynt eisiau dod yn ôl i chweched Maes y Gwendraeth neu beidio. Rwy’n awyddus i rannu fy mhrofiad cadarnhaol er mwyn dangos i eraill fod gan bawb y cyfle i flaguro fel person ifanc yn ogystal â datblygu sgiliau bywyd, creu ffrindiau am oes trwy gymdeithasu a chael y cyfle i wneud hyn i gyd trwy’r Gymraeg. Rwyf hefyd yn barod I gyfrannu at ethos Gymreig yr ysgol yn gyfan trwy bwysleisio i’r chweched ein dylanwad ar ddisgyblion iau’r ysgol.

Fy enw i yw Elen Thomas ac rwy’n un o Brif Swyddogion Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth. Ar gyfer fy arholiadau Uwch Gyfrannol, dwi’n astudio Cymraeg, Addysg Grefyddol, Hanes a’r Fagloriaeth Gymreig. Heb os, dwi am weld chweched dosbarth yr ysgol yn datblygu ymhellach ac felly yn un o’r rhesymau pam roeddwn am fod yn Brif Swyddog yr ysgol. Mae rôl Prif Swyddog yn rhan hanfodol o’r ysgol, ac yn draddodiad gwych sy'n helpu myfyrwyr i ddeall sgiliau fel arweinwyr a datblygu’r sgil o gyd weithio sy’n help mawr i’r byd gwaith yn y dyfodol. Mae bod yn Brif Swyddog yn fwy na theitl, dyma lysgenhadon yr ysgol sy’n gosod esiampl a gyrru egwyddorion pwysig. Dwi’n berson sy’n mwynhau bod yng nghanol pobl, yn cydweithio, cyd-drefnu a chyd-arwain a dwi wedi profi hyn trwy’r cyfleoedd arbennig dwi wedi’u cael yn yr ysgol. Dwi’n gyfathrebwr naturiol, hyderus ac yn gallu mynd â phobl gyda fi. Dwi’n drefnus ac yn ofalus ac felly yn gallu cadw cydbwysedd rhwng gwaith ysgol a gwaith Prif Swyddog. Fel un o Brif Swyddogion yr ysgol, hoffwn weld y chweched dosbarth yn chwarae rhan mwy allweddol trwy arddangos i’r darpar rieni y gwerthoedd Cymreig rydym wedi eu datblygu ar hyd ein taith yn yr ysgol. Ar ben hyn, dwi’n awyddus bod y Prif Swyddogion yn mynychu sesiynau pontio ac yn arwain ar weithdai pwysig o ddarllen i chwaraeon a’r cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, fe fyddwn yn hoffi ein gweld yn ymestyn ar rôl y Cyfaill Camu, gyda’r Prif Swyddogion yn mynd fesul dau neu dri unwaith yr wythnos i ddarllen nofel ddosbarth gyda blwyddyn 7 yn ystod y cyfnod cofrestru. Mae’n ffordd syml o sicrhau bod plant yn darllen ac ymlacio heb deimlo rheidrwydd i ddarllen.

Fy enw i yw Hawis Thomas ac rwyf wedi cael y fraint o fod yn un o Brif Swyddogion y chweched dosbarth eleni. Rwyf wedi dewis astudio Cemeg, Bioleg, Mathemateg a’r Fagloriaeth Gymreig, gan wneud y penderfyniad pwysig i astudio Cemeg a Bioleg yn y Gymraeg. Drwy gydol fy mhum mlynedd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, rwyf wedi dod yn ymwybodol o’r gymuned gref sydd gan yr ysgol ac wrth i mi ddechrau ar fy nwy flynedd olaf o addysg yn yr ysgol, roeddwn am allu cael y fraint a’r cyfrifoldeb i wneud cyfraniad sylweddol i’r ysgol a fydd nid yn unig yn fuddiol i mi, ond hefyd i’m cyd-gyfoedion. Ym mhob rhan o’m haddysg yn yr ysgol, rwyf wedi cael y fraint o gael athrawon sy’n ddi-ffael o hael, ymroddedig, angerddol a thosturiol i’m harwain trwy fy mlynyddoedd yn yr ysgol. Rwyf hefyd wedi dod i adnabod ffrindiau a chyd-fyfyrwyr gwerth chweil sydd wedi rhannu’r fraint hon, sydd hefyd wedi bod yn rhan mor bwysig o nid yn unig fy addysg, ond hefyd yn fy amser yn yr ysgol. Gan ddweud hyn, mae bod yn Brif Swyddog yn caniatáu i mi roi yn ôl i’r rhai sydd wedi rhoi i mi ar hyd y blynyddoedd. Mae rôl Prif Swyddog yn gofyn am rywun sy’n dangos ymrwymiad mawr i amgylchedd yr ysgol ac yn dangos hyder i fod yn brif gynrychiolydd yr ysgol. Rwy’n dangos parodrwydd mawr i fod eisiau cynnig fy ngwasanaeth i’r ysgol mewn unrhyw agwedd o waith gyda’m menter, y gallu i weithio mewn tîm ac fel arweinydd cymwys ac rwy’n barod i roi cyfraniad gwerth chweil i’n chweched dosbarth eleni. O ran cyfrifoldebau penodol, mae fy niddordeb yn gorwedd o fewn y rôl o addysgu plant iau'r ysgol am bwysigrwydd Cymreictod yn yr ysgol. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, rwy’n credu’n gryf mewn cadw’r iaith yn fyw ac rwy’n awyddus i hybu’r iaith mewn unrhyw ffordd posib yn yr ysgol a hefyd yn y gymuned ehangach.

Dirprwy Brif Swyddogion

Steffan Hale

Bedo Hallam

Gwenno Jones

Iestyn Maddock

Erin Matthews

Grug Rees

Llew Ifan Tomos

Hawen Thomas

Marged Thomas

Regan Williams

Swyddogion

Ffion Evans

Gwennan Evans

Menna Evans

Elan Gruffydd

Manon Howells

Megan Jones

Catrin Morgan

Gwawr Owens

Jessica Pearson

Saran Pugh

Ellis Sanderson

Mia Thomas

Flera Varallo

Efa Williams

Erin Williams

Gruffudd Williams

Gracie Williams-Churchill